Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (131) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynnydd o ran rhoi "Ynni Cymru" ar waith
Dechreuodd yr eitem am 14.25
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Terfynol
Dechreuodd yr eitem am 14.56
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Adroddiad Guilford
Dechreuodd yr eitem am 15.23
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Twf Swyddi Cymru - flwyddyn yn ddiweddarach
Dechreuodd yr eitem am 16.01
7. Dadl: Cryfhau Democratiaeth Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘Yn cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ a rhoi ‘Yn gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ar ôl ‘amrywiaeth’ cynnwys ‘ac ymgysylltu â rhanddeiliad’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
10 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a llywodraeth leol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
12 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi cyflwyno system etholiadol deg a chyfrannol i sicrhau bod canlyniadau yn cyfleu'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio ac yn cynrychioli eu cymunedau lleol yn well, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad Comisiwn Sunderland yn 2002 drwy hyrwyddo deddfwriaeth i gyflwyno system un bleidlais drosglwyddadwy ar gyfer cynghorau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
7 |
5 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliad mewn Llywodraeth Leol.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a llywodraeth leol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
12 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM5241 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lleElin Jones (Plaid Cymru).
NDM5242 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lleJocelyn Davies (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Daeth y cyfarfod i ben am 17:18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 15 Mai 2013